#

 

Deiseb: Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni.
Y Pwyllgor Deisebau | 21 Mai 2019
 Petitions Committee | 21 May 2019
 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd:

Rhif y ddeiseb: P-05-878

Teitl y ddeiseb: Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni.

Testun y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i annog pob archfarchnad a manwerthwr i osod drysau ar eu holl oergelloedd a rhewgelloedd, i leihau ein hôl troed carbon cenedlaethol, i leihau’r defnydd o drydan ac i baratoi ar gyfer Cymru fwy gwyrdd.

 

Mae Supervalu, manwerthwr o Iwerddon, yn amcangyfrif y byddai oergell gyffredin 2.5 metr o gyfaint, ag iddi ddrysau, yn arbed 10,000kWh y flwyddyn yn arferol, o’i gymharu ag oergelloedd nad oes ganddynt ddrysau [1].

 

Mae hyn yn cyfateb i 7 tunnell o nwy tŷ gwydr carbon deuocsid, a fyddai’n ddigon i bweru o leiaf ddau gartref â thrydan am flwyddyn! Byddai’r pŵer a arbedir o un oergell sydd â drysau yn ddigon i bweru dau gartref! [2]

 

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2016 [3] (Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd) yn rhoi "pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau statudol o ran lleihau allyriadau, gan gynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050, ac i gyflwyno cyllidebau carbon er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hynny.  Mae hyn yn hanfodol yng nghyd-destun ein hymrwymiadau Prydeinig ac Ewropeaidd ac yn gosod llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i fusnesau a buddsoddwyr."

 

Mae hwn yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru weithio tuag at y nod hwn a chyfrannu at y gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050. Gallai’r Ddeddf hon arwain at ganlyniadau enfawr yn genedlaethol ac yn fyd-eang! Beth am i Gymru fod yn wlad flaenllaw ar y llwyfan rhyngwladol, gydag amgylchedd "iach a chydnerth" [3] drwy gau’r drws yn glep ar wastraffu ynni, a hynny ar gyfer y genhedlaeth hon a’r genhedlaeth nesaf!

Y cefndir

Mae’r Gyfarwyddeb Ecoddylunio Ewropeaidd yn darparu rheolau cyson ar draws yr UE ar gyfer gwella perfformiad amgylcheddol cynhyrchion, fel offer cartref. Mae’r Gyfarwyddeb yn nodi’r gofynion gorfodol lleiaf o ran effeithlonrwydd ynni’r cynhyrchion hyn, ac yn ceisio cysoni’r gofynion ar gyfer cynhyrchion o’r fath ar draws y farchnad fewnol Ewropeaidd.

Er mwyn datblygu gofynion priodol, mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn gorchymyn y dylid cynnal astudiaethau paratoadol ar gyfer gwahanol grwpiau cynnyrch. Yn 2007 cynhaliwyd astudiaeth ar oergelloedd a rhewgelloedd masnachol, a chyhoeddwyd yr adroddiad terfynol (PDF, 7.45MB) ym mis Rhagfyr 2007.

Gwnaeth yr adroddiad nifer o argymhellion a chanfu y byddai gosod drysau ar oergelloedd a rhewgelloedd masnachol ar draws Ewrop yn arbed tua 30 TWh o ynni y flwyddyn erbyn 2020. Byddai hyn tua’r un faint â chyfanswm y defnydd o drydan preswyl blynyddol yng Ngwlad Pwyl.

Fel y crynhoir mewn un erthygl, heriwyd canfyddiadau’r adroddiad gan y gwneuthurwyr, ac ni chymerwyd unrhyw gamau ar y pryd. Yn 2014, cynhaliwyd dadansoddiad wedi’i ddiweddaru, a chadarnhaodd y dadansoddiad fod yr arbedion trydan blynyddol posibl gyfwerth â gwrthbwyso cynhyrchu ynni tua 25 o weithfeydd pŵer glo o faint canolig. Eto, fodd bynnag, nid yw’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cymryd unrhyw gamau ers hynny.

Côd Ymddygiad Gwirfoddol Ffrainc

Dangosodd Astudiaeth yn Ffrainc yn 2008 (PDF, 2.85MB) yr arbedion ariannol posibl y gallai manwerthwyr o wahanol feintiau eu gwneud drwy osod oergelloedd archfarchnadoedd â drysau. Yn dilyn yr astudiaeth hon, llofnodwyd cod ymddygiad gwirfoddol yn 2012 gan nifer o fanwerthwyr Ffrengig mawr mewn partneriaeth â Gweinyddiaeth Ecoleg, Datblygu Cynaliadwy, Trafnidiaeth a Thai Ffrainc. Fodd bynnag, awgryma erthygl yn 2014 bod cefnogaeth hefyd gan Lywodraeth Ffrainc ar ffurf cymhellion ariannol.

Gweithredu gan archfarchnadoedd y DU

Fel yr adroddwyd yn y wasg, mae nifer o archfarchnadoedd y DU wedi treialu defnyddio drysau ar oergelloedd yn y gorffennol drwy’u holl siopau, a nododd archfarchnad y Co-operative, yn 2012, ei bod yn arbed tua £50 miliwn y flwyddyn ar ei biliau ynni. Fel yr adroddwyd yn yr erthygl, fodd bynnag, roedd archfarchnadoedd eraill yn amharod i wneud hynny, ac yn awgrymu bod drysau ar oergelloedd yn amhoblogaidd gyda chwsmeriaid ac y gallent effeithio ar werthiant.

Yn 2013, cyhoeddodd Greg Barker AS, Gweinidog Gwladol y DU ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd ar y pryd, y byddai tasglu oergelloedd manwerthu yn cael ei sefydlu i ganolbwyntio ar leihau ynni yn y sector. Roedd disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn hydref 2014, ond nid oes diweddariad ar gael ar y wefan Llywodraeth y DU ar ganlyniad y gwaith hwn. 

Yn fwy diweddar, mae technoleg ar gael i’w osod ar flaen silffoedd oergelloedd sy’n creu llen aer i atal aer oer rhag dianc i eiliau archfarchnadoedd. Fel yr adroddwyd yn y cyfryngau yn 2017, mae Sainsburys wedi defnyddio’r dechnoleg hon, ac wedi lleihau rhywfaint ar ei chostau ynni. Fel y nodwyd yn yr erthygl, fodd bynnag, awgryma’r Ymddiriedolaeth Garbon mai dim ond cau bwlch dros dro yw’r cam hwn. Y ffordd orau o leihau’r defnydd o ynni yw rhoi drysau llithro neu ddrysau i’w hagor ar eu holl oergelloedd, gan y gallai hynny leihau eu defnydd o drydan 30 y cant i 40 y cant."

Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn ei lythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, dyddiedig 26 Ebrill 2019, tynnodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth sylw at nifer o fentrau sy’n ceisio annog y sector manwerthu i leihau ei allyriadau.

Mae’r mentrau hyn yn cynnwys Ardoll Newid Hinsawdd a Chytundebau Newid Hinsawdd Llywodraeth y DU. Mae’r Gweinidog yn pwysleisio:

The Levy is a tax on energy delivered to businesses in the UK, while the Agreements are opt-in schemes where participants receive a discount from the Levy in return for meeting pre-agreed energy efficiency improvement targets.

Mae’r Gweinidog hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi Ymrwymiad Courtauld 2025. Menter wirfoddol yw hon ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd a diod, i nodi blaenoriaethau, i ddatblygu datrysiadau ac i weithredu newidiadau i dorri lefel y carbon, y dŵr a’r gwastraff sy’n gysylltiedig â bwyd a diod o leiaf un rhan o bump mewn 10 mlynedd. 

Fel yr amlygwyd gan y deisebydd, mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dargedau statudol i leihau allyriadau.

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Deddf yr Amgylchedd) yn gosod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau:

§    Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod yr allyriadau net ar gyfer 2050 o leiaf 80 y cant yn is na’r llinell sylfaen (1990 neu 1995);

§    Erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau interim ar gyfer 2020, 2030 a 2040;

§    Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol pum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu uchafswm ar gyfer allyriadau net Cymru (cyllideb garbon), gyda’r ddwy gyllideb gyntaf i’w pennu erbyn diwedd 2018;

§    Caiff Llywodraeth Cymru, drwy reoliadau sefydlu neu bennu corff neu berson i fod yn gorff cynghori. Os nad oes Rheoliadau mewn grym, y corff ymgynghorol yw Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC); a

§    Rhaid i Lywodraeth Cymru roi ystyriaeth i gytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn nhymheredd cyfartalog y byd.

Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018,

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud pum cyfres o Reoliadau i roi’r ymrwymiadau sy’n deillio o Ddeddf yr Amgylchedd ar waith. Y rhain yw:

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2018 ; a

§    Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018.

Ochr yn ochr â’r Rheoliadau ceir Memorandwm Esboniadol ac Asesiad Effaith Rheoleiddiol.

Cyllidebau Carbon

Mae Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018 yn nodi’r ddwy gyllideb carbon gyntaf. Y rhain yw:  

§    Ar gyfer cyfnod cyllidebol 2016 i 2020, mae’r gyllideb carbon yn gyfyngedig i gyfartaledd o 23 y cant yn is na’r llinell sylfaen; a

§    Ar gyfer cyfnod cyllidebol 2021 i 2025, mae’r gyllideb carbon yn gyfyngedig i gyfartaledd o 33 y cant yn is na’r llinell sylfaen.

Targedau interim

Yn ei Femorandwm Esboniadol cysylltiedig, disgrifir mai diben Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018 yw pennu targedau degawdol sy’n gosod llwybr i’r targed 2050 a sefydlwyd yn y Ddeddf, hynny yw, o leiaf 80 y cant yn is na’r llinell sylfaen.

Mae Adran 30(1) o Ddeddf yr Amgylchedd yn darparu, ar gyfer blwyddyn pob targed interim (2020, 2030, 2040), mae’n rhaid i Weinidogion Cymru, drwy Reoliadau, osod uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru, wedi’i fynegi fel canran islaw’r llinell sylfaen.

Mae’r Rheoliadau’n nodi’r targedau allyriadau interim fel a ganlyn -

§    Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2020 yw 27% islaw’r llinell sylfaen;

§    Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2030 yw 45% islaw’r llinell sylfaen;

§    Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2040 yw 67% islaw’r llinell sylfaen.

Mae’r targedau interim yn adlewyrchu’r cyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan CCC y DU.

Cynllun Cyflawni Carbon Isel

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni Carbon Isel cyntaf ym mis Mawrth 2019. Mae Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yn nodi sut mae Cymru â’r nod o gyflawni ei chyllideb carbon gyntaf (2016-2020) ac o ganlyniad, ei tharged interim 2020 drwy 76 o bolisïau presennol ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r UE - a 24 o gynigion newydd. 

Mae’r cynllun cyflawni carbon isel yn cynnwys Polisi 61 - Cynllun Gweithredu ar gyfer Bwyd a Diod - Tuag at Dwf Cynaliadwy, ac mae’n amlygu:

Lansiwyd Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy (2014-2020)’ yn 2014 i osod y targed pennawd cyffredinol o gynyddu gwerth y sector bwyd a diod yng Nghymru 30% i £7 billion erbyn 2020. Mae’r Cynllun yn cynnwys 48 o gamau gweithredu ynghylch 5 prif thema i gefnogi’r sector, gan gynnwys hyrwyddo cynhyrchiant carbon isel a defnyddio adnoddau yn fwy effeithlon.

… Bydd Cynllun olynol i ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy’, a fydd i bob pwrpas yn gynllun galluogi ar gyfer Bwyd fel Sector Sylfaen o dan y Cynllun Gweithredu Economaidd, yn cael ei lansio ar ddiwedd y flwyddyn [2019].

Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Bwyd a Diod presennol yn cyfeirio at uchelgais i Gymru ddod yn ‘gwmni cynhyrchu’ bwyd carbon isel. Mae hefyd yn tynnu sylw at yr ôl-troed carbon sylweddol a grëir yn sgîl y gadwyn fwyd, gan gynnwys “prosesu, storio, pecynnu, dosbarthu, manwerthu [a] chludiant” bwyd. Ni chyfeirir yn benodol, fodd bynnag, at sut y caiff bwyd ei storio mewn oergelloedd mewn archfarchnadoedd.

Nid oes cofnod o’r mater hwn yn cael ei drafod yn y Cynulliad Cenedlaethol.